Pontio
Mae adeilad Pontio yn gartref i fannau addysgu, gan gynnwys PL5, sef ein darlithfa fwyaf, a mannau astudio i fyfyrwyr. Mae hefyd yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â sinema a theatr sydd yn agored i’r cyhoedd.
Mae’r adeilad wedi’i leoli ar yr allt rhwng Bangor isaf a Bangor Uchaf, ac mae ganddo dair mynedfa; dwy fynedfa ar waelod yr adeilad ar Ffordd Deiniol, a mynedfa i fyfyrwyr ar lawr uchaf yr adeilad.
Mae wedi’i nodi fel Pontio ar Fap y Campws.
Lleoliadau What3Words a Golygfa stryd mynedfeydd Pontio:
Mynedfeydd ar Ffordd Deiniol:
What3Words: mynedfa ochr
Golygfa stryd: mynedfa ochr
What3Words: mynedfa flaen
Golygfa stryd: mynedfa flaen
Mynedfa Bangor Uchaf (myfyrwyr):
What3Words: Mynedfa Bangor Uchaf
Golygfa Stryd: Mynedfa Bangor Uchaf
Cyfeiriad Pontio yw:
Pontio,
Ffordd Deiniol,
Bangor,
LL57 2TQ
Nôl