Drwy siarad am fod yn awtistaidd ac eirioli drosoch eich hun, rydych yn cymryd cam pwysig tuag at deimlo’n gyfforddus gydag eraill. Mae’r gweithgaredd hwn yn cyflwyno manteision bod yn agored ynglŷn â bod yn awtistaidd, ac yn rhoi rhai awgrymiadau ymarferol.
Background
Yn y gorffennol, efallai mai eich rhieni, athrawon, neu bobl eraill sydd wedi eich helpu a fyddai wedi gwneud y rhan fwyaf o’r siarad – roeddent yn gwybod popeth amdanoch chi a gallent eich helpu i esbonio i bobl eraill sut mae cyflwr ar y sbectrwm awtistaidd yn effeithio arnoch chi’n gymdeithasol ac yn addysgol.
Beth mae pobl eraill eisiau/angen ei wybod?
Mae angen i wahanol bobl wybod gwahanol bethau ar wahanol adegau – nid yw dweud wrthynt eich bod yn awtistiaidd yn rhoi digon o wybodaeth iddynt.
Does dim angen i’ch ffrindiau wybod am y diffiniad o awtistiaeth, ond byddwch yn gwneud mwy o synnwyr iddynt os ydynt yn gwybod pethau megis pam eich bod yn bryderus o amgylch digwyddiadau cymdeithasol, pam eich bod yn ymateb mewn rhai ffyrdd, pam eich bod yn profi pethau synhwyraidd yn wahanol neu pam fod angen i chi wneud pethau perthnasol er mwyn teimlo’n gyfforddus, ac mae’n golygu nad oes rhaid i chi esgus bod yn rhywun arall o’u cwmpas.
How could this affect me?
Yn y brifysgol, gallwch ofyn am gefnogaeth gan y gwasanaeth anabledd a phobl eraill. Ym Mhrifysgol Bangor, gallwn ysgrifennu Cynllun Cefnogi Dysgu Personol i chi, a fydd yn darparu gwybodaeth allweddol i staff perthnasol yn y Brifysgol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn cynnwys manylion sy’n berthnasol i bob sefyllfa, ac ni fydd yn weladwy i bob aelod o staff. Nid yw’n weladwy i unrhyw fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod rhai sefyllfaoedd pan fydd yn gyfrifoldeb i chi roi mwy o fanylion i bobl am eich diagnosis ac egluro beth mae hynny’n ei olygu i chi.
Hyd yn oed os yw rhywun yn gwybod eich bod yn awtistaidd, nid yw’n golygu eu bod yn gwybod sut y bydd yn effeithio arnoch chi, ac nid yw’n golygu y byddant yn ymwybodol bod y cyflwr yn cynnwys elfennau cadarnhaol yn ogystal ag elfennau negyddol.
Dywedodd 90% o rieni yn ein harolwg Autism&Uni fod yn rhaid iddynt eirioli dros eu plant er mwyn iddynt allu derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn yr ysgol. Dywedodd myfyrwyr yn yr arolygon eu bod yn ei chael hi’n anodd esbonio anawsterau sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth, a allai fod yn rhannol oherwydd bod pobl eraill wedi gwneud hyn drostynt cyn dod i’r brifysgol.
“Dwi’n poeni fy mod am gael fy ngwrthod neu fy mod methu ag esbonio fy hun yn dda, neu efallai y bydd pobl yn fy nghamddeall a bod hynny’n newid y ffordd dwi’n cael fy nhrin.” (Ymateb arolwg Autism&Uni)
Felly, yn ogystal ag ystyried pwy i ddweud wrthynt, neu sut, mae hefyd yn bwysig eich bod yn ystyried beth rydych eisiau ei ddweud wrth bobl a all eich helpu, a pha mor gyfforddus ydych yn teimlo wrth egluro’ch anghenion. Mae’n debyg i ddysgu sut i gwyno am rywbeth yn effeithiol…
SUT I GWYNO
1) Nodwch y broblem yn glir ac yn ddi-emosiwn (er enghraifft: “Dwi wedi canfod gwallt yn fy mrechdan”)
2) Eglurwch, heb fynd yn flin, beth oedd y canlyniadau i chi (er enghraifft: “Wnes i ddim cael cinio’r diwrnod hwnnw oherwydd doedd gen i ddim amser i ddod yn ôl i’r siop”)
3) Dywedwch wrth y person rydych yn cwyno wrtho yn union beth hoffech iddynt ei wneud am y broblem, heb fod yn anghwrtais (er enghraifft: ymddiheuro, rhoi ad-daliad llawn i chi, gwneud yn siŵr bod staff wedi’u hyfforddi ar y mater hwn)
4) Byddwch yn glir erbyn pryd mae angen i hyn gael ei wneud (er enghraifft: dydd Gwener 5pm, diwedd y mis, o fewn 48 awr ac yn y blaen)
Mae hyn yn golygu ei fod yn hawdd i’r sawl sy’n ymateb gytuno a gwneud pethau’n iawn. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod pobl yn eich deall yn glir ac yn hawdd ac yn eich helpu pan fydd gennych broblem sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth.
Ond mae’n anodd peidio â mynd yn emosiynol neu’n flin pan nad yw pobl i weld yn deall. Dyma eich bywyd chi, nid brechdan yn unig.
What to do next?
Siaradwch am fod yn awtistaidd gyda phobl y gallwch ymddiried ynddynt
Practical tips
Mae bod yn agored ynglŷn â bod yn awtistaidd yn golygu bod y stigma y mae rhai pobl yn ei deimlo ynghylch awtistiaeth yn fwy tebygol o ddiflannu. Dechreuwch gyda phobl y gallwch ymddiried ynddynt, a thrafodwch faterion penodol y credwch y gallent sylwi arnynt beth bynnag.
Dywedodd myfyrwraig wrthym am ei phrofiad o ddweud wrth ei ffrindiau:
“Oherwydd eu bod yn ymwybodol, dwi’n teimlo fy mod yn gallu bod yn fi fy hun fwy, yn lle ceisio ffitio i mewn, er fy mod hefyd yn meddwl ei fod yn eu helpu i dderbyn gwahaniaethau bach.
O ran pethau cymdeithasol, mae’n helpu eu bod yn ymwybodol na allant anfon neges destun ataf i weld a ydw i’n rhydd yr eiliad hwnnw, ond dylent roi rhybudd o sawl diwrnod i mi – sydd ddim yn golygu fy mod â phroblem bersonol gyda nhw, dim ond fy mod angen ychydig o amser i baratoi i fod yn gymdeithasol.
Mae hefyd yn helpu, os byddwn yn cwrdd i wneud rhywbeth, eu bod yn gwybod nad ydw i’n gallu ymdopi â synau uchel, torfeydd, goleuadau ac ati, a byddaf yn ‘diffodd’ yn yr achlysuron hyn.”
Os yw staff academaidd yn gwybod sut mae awtistiaeth yn effeithio ar eich dysgu a beth allai eich gwneud yn llai pryderus, yn enwedig os ydych yn dweud wrthynt mewn digon o amser, maent yn fwy tebygol o allu eich helpu. Mae angen i chi fod yn benodol, a gall eich ymgynghorydd anabledd eich helpu i lunio strategaethau y gallwch eu defnyddio.
Dywedodd sawl myfyriwr wrthym, os yw ffrindiau’n gwybod y pethau unigol sy’n eu poeni, megis dod o hyd i leoedd newydd neu ddeall cwestiynau aseiniad, y gallant gael llawer o gefnogaeth ganddynt.
Nôl