Mae llawer o fyfyrwyr yn ystyried cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau yn un o’r agweddau mwyaf cyffrous a mwyaf anodd wrth ddechrau yn y brifysgol.
Background
“Roeddwn i’n disgwyl gallu cymryd rhan mewn cymdeithasau’n hawdd, ond fe wnes i guddio yn fy ystafell gan fy mod ofn cwrdd â phobl newydd. O’r eiliad y cyrhaeddais yma roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r Clwb Llafur. Fe wnes i fynd i un cyfarfod, ac er gwaethaf cwrdd â phobl siaradus a chyfeillgar iawn, treuliais yr holl amser yn fy marnu fy hun, gan feddwl tybed a oeddwn i’n gwneud popeth yn iawn, gan gwestiynu a oeddwn i’n argyhoeddi pobl fy mod i’n ‘normal’.” (Chris, cyn-fyfyriwr)
Gall gwneud ffrindiau fod yn anodd i unrhyw un ar unrhyw adeg, ond mae’r semester cyntaf yn y brifysgol yn gyfnod mawr llawn newid, a gall agweddau cymdeithasol ar awtistiaeth ac agweddau sy’n ymwneud ag arferion wneud pethau ychydig yn anoddach. Nid yw hynny’n golygu ei fod yn amhosibl, ond fel gyda chymaint o bethau, gall gymryd ychydig mwy o waith i bobl awtistig. Mae gwybod sut i gwrdd â phobl newydd yn ddechrau gwych.
How could this affect me?
Er bod myfyrwyr yn yr arolwg Autism&Uni wedi dweud wrthym fod siarad â ffrindiau wedi eu helpu’n fawr pan oeddent dan straen, canfu llawer o bobl hefyd mai cymdeithasu oedd un o’u pryderon mwyaf yn y brifysgol, ac roedd eu rhieni a’u hathrawon yn cytuno.
Gall fod yn demtasiwn osgoi gwneud unrhyw beth y tu allan i’r cwrs, a dyna’r llwybr y mae rhai myfyrwyr awtistig yn ei gymryd, ond bydd dod ymlaen â phobl (hyd yn oed os nad nhw yw eich ffrindiau gorau) a chymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i’ch cwrs gradd yn helpu i wneud prifysgol yn brofiad cadarnhaol. Mae yna fanteision i’ch marciau hefyd – mae myfyrwyr sy’n trafod eu modiwlau gydag eraill yn tueddu i gael marciau gwell. Nid oherwydd eu bod nhw’n copïo ei gilydd, ond mae dau ben (neu fwy) yn well nag un wrth ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddeall pynciau.
Efallai na fydd yn hawdd bob amser, ac nid oes canllaw di-ffael i wneud i bobl eich hoffi chi, ond mae gennym rywfaint o awgrymiadau ymarferol i’w rhannu.
What to do next?
Dewiswch un neu fwy o'r awgrymiadau ymarferol a siarad â rhywun newydd.
Practical tips
Gwnaethom ofyn i bobl sut roeddent wedi gwneud ffrindiau yn y brifysgol. Dyma beth wnaethant ei ddweud:
- “Ymunais â chlybiau, yna cefais fy ngwahodd i dreulio amser gyda nhw oherwydd fy mod i’n berson mor rhyfedd a diddorol (dyna gafodd ei ddweud wrtha i beth bynnag)”
- “Gwaith (roeddwn i’n gweithio yn y llyfrgell), ffrindiau i ffrindiau (aeth ychydig o bobl o’r ysgol i’r un brifysgol), sesiynau labordy”
- “Yfed” (roedd hwn yn ateb poblogaidd – gall diddordeb mewn alcohol a goddefgarwch ohono amrywio…)
- “Y ffordd fwyaf llwyddiannus, yn y pen draw, oedd dod o hyd i grŵp o ‘bobl o’r un anian’ (grŵp ymgyrchwyr amgylcheddol) – doeddwn i ddim yn eu hoffi nhw i gyd, ond llwyddais i ddod o hyd i bobl yn y grŵp hwnnw yr oeddwn yn dod ymlaen â nhw ac arweiniodd hynny at lawer o gysylltiadau eraill”
- “Roeddwn i’n byw mewn neuaddau preswyl felly roeddwn i’n gorfod treulio amser gyda dieithriaid mewn mannau cyffredin. I fod yn onest, wnes i erioed wneud ffrindiau go iawn” (mae’n iawn peidio â gwneud ffrindiau go iawn os oes gennych ffrindiau y tu allan i’r brifysgol, ond os gallwch ddod ymlaen â phobl a dod o hyd i bobl i wneud pethau gyda nhw, bydd yn brofiad llai unig)
- “Bod yn ddewr a siarad â phobl yn y ciwiau diddiwedd. Dyma sut wnes i gwrdd â fy ffrind agosaf ers bron i 18 mlynedd bellach”
- “Byw mewn neuadd breswyl; mynd i siarad â chyd-fyfyrwyr oedd yn edrych yn nerdaidd; cwrdd â phobl o fforymau rhyngrwyd”
- “Cwrs, Classoc, Gilbert & Sullivan, cylchgrawn y brifysgol, radio’r brifysgol, Jsoc. Doedd neuaddau preswyl ddim yn ddefnyddiol i mi o ran gwneud ffrindiau!”
Gallwch weld o’r rhestr hon fod llawer o bobl wedi gwneud ffrindiau trwy ymuno â grwpiau sy’n gysylltiedig â’u diddordebau a nifer trwy eu llety. Mae “ffrindiau i ffrindiau” hefyd yn ateb cyffredin – efallai na fyddwch yn dechrau gyda llawer o ffrindiau, ond maent i gyd yn adnabod pobl hefyd.
Ceisiwch adael eich drws ar agor os ydych yn byw mewn neuadd breswyl a sgwrsio â phobl yn y mannau cymunedol.
Ymunwch â grwpiau, cymdeithasau a chlybiau, naill ai yn y brifysgol neu yn yr ardal lle rydych chi’n byw.
Cyflwynwch y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw i’w gilydd, a byddant yn gwneud yr un peth gyda’u ffrindiau newydd.
Byddwch yn ddewr, a byddwch yn real.
Mae “bod yn ddewr” yn bwynt da – mae’n dda gallu dechrau sgyrsiau yn ogystal ag aros i rywun ddechrau sgwrs gyda chi. Gall hyn gymryd dewrder, ond mae’n werth ei wneud.
“Teimlwch yn hyderus a byddwch eich hun”. Gall y syniad o fynd at rywun newydd i siarad gyda nhw fod yn frawychus ond unwaith y byddwch yn dod o hyd i rywbeth yn gyffredin byddwch yn teimlo’n llawer gwell. Ewch at y person a chyflwyno eich hun drwy ddweud rhywbeth fel “Helo, Joe ydw i” a dylai’r person ymateb yn ôl. Pan fyddwch yn dod i’w hadnabod yn well, efallai y gallwch gyfnewid rhifau ffôn neu ychwanegu eich gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad.
Rhannwch ddanteithion – rhowch y tegell ymlaen, gwnewch gacen, dewch â beiro…
“Un o’r dulliau y gwnes i ei ddefnyddio oedd cerdded o gwmpas gyda bag o felysion y gallwn ei rannu â myfyrwyr eraill. Rhoddodd hyn gymaint o gyfleoedd i mi siarad â llwythi o bobl wahanol, ac mae rhai ohonyn nhw bellach yn ffrindiau i mi.” (James, cyn-fyfyriwr)
Mae rhannu eitemau bach, megis paned o de, sleisen o pizza, neu blât o fisgedi fel arfer yn plesio, a gall bwyta ac yfed fod yn weithgareddau cymdeithasol iawn. Gall cael beiros a phapur sbâr gyda chi eich helpu i gwrdd â phobl mewn darlithoedd hefyd.
Ffurfiwch grŵp astudio neu ymuno ag un sydd eisoes yn bodoli
Hyd yn oed os na fyddech yn treulio amser gyda phobl ar eich cwrs pan fyddwch gartref, mae’n ddefnyddiol trafod gwaith cwrs gyda nhw – gallwch chi i gyd wirio’ch dealltwriaeth a chael safbwyntiau newydd ar y gwaith. Ceisiwch siarad â’r bobl o’ch cwmpas ar ddiwedd darlith neu seminar. Gallech hefyd ofyn a hoffent ffurfio grŵp astudio. Byddai grŵp astudio yn ymwneud â’r gwaith, nid pwy sy’n hoffi pwy; gallai hyn ei gwneud hi’n haws ymuno, hyd yn oed os nad ydych yn adnabod unrhyw un.
Dewch o hyd i ffrindiau ar-lein
Gallwch ddechrau dod i adnabod pobl cyn i chi fynd i’r brifysgol – gallwch ddefnyddio fforymau megis The Student Room, sydd ag is-fforymau ar gyfer pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig. Mae Prifysgol Bangor hefyd yn defnyddio Campus Connect fel y gallwch ddod o hyd i bobl ar eich cwrs ac yn eich neuadd breswyl.
Questions to think about
-
- Oes gan eich prifysgol neu dref glwb, grŵp neu gymdeithas sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau? Gallwch edrych ar dudalen Undeb Myfyrwyr Bangor i chwilio am glybiau chwaraeon a chymdeithasau. Os nad oes clwb sydd o ddiddordeb i chi, gall Undeb y Myfyrwyr eich helpu i ddechrau un.
- Os ydych yn byw mewn neuadd breswyl, allech chi adael eich drws ar agor pan fyddwch gartref fel bod pobl yn gallu gweld eich bod yn hapus i siarad â nhw?
- Pa ddanteithion allech chi eu rhannu i ddechrau sgwrs gyda’r myfyrwyr ar eich cwrs neu’r bobl sy’n byw yn yr un llety?
Additional information
Gwneud ffrindiau fel person ifanc awtistig – Ambitious about Autism
Gwneud ffrindiau; canllaw i oedolion awtistig – National Autistic Society
About the author
Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Kate Walker o’r tîm Llesiant a Chydraddoldeb ym Mhrifysgol Leeds Beckett.
Wedi’i diweddaru a’i haddasu ar gyfer Prifysgol Bangor, Mehefin 2025.
Nôl