Mae dweud wrth bobl yn y brifysgol am eich awtistiaeth yn cael ei alw’n ‘ddatgelu’ neu ‘ddatgan anabledd’. Ni all eich prifysgol ddarparu cefnogaeth wedi ei theilwra i chi oni bai eich bod yn dweud wrthynt am eich awtistiaeth.
Background
Beth yw datganiad?
Efallai nad ydych yn ystyried bod eich awtistiaeth yn anabledd, ond dyna sut mae sefydliadau fel prifysgolion yn cydnabod y gallai fod gennych anghenion ychwanegol. Mae datganiad yn gwneud i’r brifysgol gysylltu â chi i drafod eich anghenion a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Nid yw dweud wrth y brifysgol bod gennych awtistiaeth yn golygu bod rhaid i chi ddweud wrth bawb rydych yn cwrdd â hwy, ac nid yw’n golygu y byddwch yn cael eich gorfodi i gael cefnogaeth nad ydych ei heisiau na’i hangen.
Pam mae’n bwysig datgan?
Nid yw rhai myfyrwyr yn dweud wrth unrhyw un yn y brifysgol am eu hawtistiaeth, hyd yn oed y brifysgol ei hun. Mae peidio â datgan yn ei gwneud hi’n anodd cael cefnogaeth, cefnogaeth swyddogol a chefnogaeth gan ffrindiau. Yn yr ysgol neu’r coleg, efallai nad oedd arnoch angen cefnogaeth o’r tu allan i’ch teulu, ac efallai bydd yr un peth yn wir yn y brifysgol. Fodd bynnag, mae prifysgol yn wahanol iawn i ysgol a choleg, ac mae amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael.
Rhaid i’r brifysgol gael gwybod bod gennych gyflwr ar y sbectrwm awtistig er mwyn gwneud ‘addasiadau rhesymol’, e.e. rhoi amser ychwanegol i chi yn ystod arholiadau.
I gael gwybod am y gefnogaeth a’r addasiadau rhesymol sydd ar gael, cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd. Os byddwch yn penderfynu peidio â datgan cyn i chi gyrraedd y brifysgol, ond yr hoffech ddweud wrth y brifysgol am eich awtistiaeth yn ystod eich cwrs, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd i gael cyngor ar sut i wneud hyn.
Pan fyddaf yn datgan, pwy fydd yn cael gwybod?
Pan fyddwch yn datgan, naill ai ar eich ffurflen gais neu’n uniongyrchol i’r Gwasanaethau Anabledd <https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/>, mae hon yn broses gyfrinachol. Rhennir gwybodaeth ar sail angen gwybod, ac mae’n rhaid i chi gydsynio cyn y gallwn rannu’r math hwn o wybodaeth. Rydym yn cofnodi eich cydsyniad yn ffurfiol trwy ’Ffurflen Gofrestru’r Gwasanaethau Anabledd <//bangoroffice365.sharepoint.com///apps.bangor.ac.uk/plsp/applicant/>.
Ni fydd y Gwasanaethau Anabledd yn dweud wrth y myfyrwyr eraill ar eich cwrs; dim ond gydag aelodau staff y mae’n ofynnol iddynt wneud addasiadau, neu gyda’r rhai a fyddai’n elwa o fod yn ymwybodol, y caiff gwybodaeth ei rhannu.
Rydym yn rhannu gwybodaeth ac addasiadau rhesymol gyda staff trwy ein Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol. Bydd gan eich tiwtor personol a’r tiwtor anabledd a’r uwch diwtor yn eich ysgol fynediad i’ch cynllun dysgu personol cyfan, ond dim ond i’r adrannau sy’n berthnasol i’w swydd y rhoddir mynediad i staff eraill (e.e. dim ond pa addasiadau y dylent eu rhoi ar waith i chi mewn arholiad y bydd y Swyddfa Arholiadau yn cael gwybod, nid eich diagnosis). Gallwch weld pwy fydd yn gweld eich cynllun cefnogi dysgu personol ar ein gwefan. Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu rhannu gwybodaeth gyda’ch cyfoedion os ydych yn meddwl y gallai eu helpu i ddeall ychydig mwy amdanoch chi, ond eich dewis chi yn llwyr yw hyn.
How could this affect me?
Beth sy’n digwydd pan nad yw myfyrwyr yn datgan?
Cynhaliodd Autism&Uni arolwg i holi pobl sydd â phrofiad o fynychu a/neu gwblhau prifysgol, a dywedodd dros 70% o’r rhai a holwyd nad oeddent wedi dweud wrth unrhyw un eu bod yn awtistig. Ni chafodd rhai myfyrwyr ddiagnosis tan ar ôl iddynt adael y brifysgol.
Mae ymchwil yn awgrymu bod myfyrwyr a gafodd ddiagnosis cyn neu yn ystod y brifysgol ac a ddatganodd eu hawtistiaeth yn fwy tebygol o gwblhau eu cwrs a chael marciau da.
Fodd bynnag, o’r 70% o fyfyrwyr a holwyd a ddewisodd beidio â datgan, dywedodd y rhai a adawodd y brifysgol cyn cwblhau eu cwrs wrthym mai’r rheswm oedd eu bod bellach yn sylweddoli eu bod angen cefnogaeth gyda rhai agweddau ar fywyd yn y brifysgol. Er bod y myfyrwyr yn gyffredinol wedi cael marciau da wrth gyflwyno gwaith, dywedasant eu bod wedi cael trafferth ymdopi heb unrhyw gefnogaeth, yn enwedig ar ddechrau’r cwrs.
Teimlai rhai myfyrwyr hefyd eu bod wedi cael eu bwlio neu eu heithrio’n anfwriadol gan fyfyrwyr eraill, a allai fod wedi bod yn fwy caredig pe byddent wedi gwybod eu bod yn awtistig. Mae’r brifysgol yn cymryd adroddiadau am fwlio o ddifrif ac yn annog unrhyw fyfyriwr sy’n teimlo eu bod wedi dioddef bwlio neu drosedd casineb i geisio cefnogaeth a/neu adrodd am y digwyddiad.
Dywedodd nifer o’r myfyrwyr a adawodd eu cwrs cyn cwblhau ac a ddychwelodd i’w hastudiaethau yn ddiweddarach eu bod wedi cael profiad gwell oherwydd bod pobl yn gwybod eu bod yn awtistig, ac roedd hynny’n golygu eu bod yn gallu cael mynediad at gefnogaeth a dod ymlaen yn well yn gymdeithasol. Dywedodd y myfyrwyr hyn wrthym fod cael cefnogaeth mor gynnar â phosib, yn ddelfrydol o ddechrau’r cwrs, wedi gwneud ymgartrefu yn y brifysgol yn llawer haws gan ei fod yn gyfnod mor ansicr, er ei fod yn gyfnod cyffrous hefyd.
Gall cael cefnogaeth yn yr wythnosau cyntaf hynny, hyd yn oed pethau syml fel rhywun yn mynd â chi o amgylch y campws ac yn dangos i chi ble bydd eich darlithoedd yn cael eu cynnal, fod yn bwysig iawn. Yn ein harolygon, ni ddywedodd llawer o fyfyrwyr wrth unrhyw un eu bod yn awtistig nes eu bod eisoes yn cael trafferthion mawr, ac mewn rhai sefyllfaoedd, roedd hyn yn golygu bod eu gwaith a/neu eu lles wedi ei effeithio.
Mae’n cymryd amser i brosesu ceisiadau am gefnogaeth ac anfon gwybodaeth at y bobl berthnasol, felly gorau po gyntaf y gallwch hysbysu’r brifysgol. Nid oes rhaid i chi ddisgwyl am ganlyniadau arholiadau (e.e. canlyniadau Lefel A) na lle wedi ei gadarnhau yn y brifysgol, gallwch gysylltu â ni yn awr – hyd yn oed os byddwch yn mynd i rywle arall yn y pen draw.
Fern: Dw i’n meddwl ei bod hi’n syniad da datgelu gan fod prifysgol yn llawer mwy na’r ysgol, felly does neb yno i sicrhau bod popeth yn iawn a’ch bod chi’n ymdopi. Darllenwch yr erthygl gyfan yma
What to do next?
Meddyliwch a hoffech ddatgan
Practical tips
Mewn sawl ffordd, mae penderfynu dweud wrth y brifysgol yn swyddogol am eich awtistiaeth yn dod â manteision amlwg gyda ffiniau clir; mae datgan yn golygu y gallwch gael mynediad at gefnogaeth. Bydd y brifysgol yn dweud wrthych ba wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen arnynt gennych chi ac ni fyddant yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth heb eich caniatâd.
Os byddwch yn penderfynu peidio â datgan ar eich ffurflen gais, neu os nad ydych wedi cael diagnosis, gallwch ddweud wrth y brifysgol unrhyw bryd trwy gydol eich astudiaethau trwy gysylltu â’r Gwasanaethau Anabledd i drafod eich opsiynau a beth mae hyn yn ei olygu os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â datgan.
Siaradwch â’ch ffrindiau a’ch teulu am ddatgan.
Questions to think about
Here are some questions that might help you to think about declaring:
- Do you want to declare on your application?
- Would you like to talk to Disability Services directly?
- Do you want to access support at the start of your studies? – if you do, you will need to engage with Disability Services in good time before you start your course.
- Would you just like to access support from DSA but not tell your tutors (this will prevent adjustments being implemented)?
About the author
Cyfrannodd Tîm Cyngor Anabledd Leeds Beckett yr erthygl hon ac addaswyd gan Wasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor.
Nôl