Sut beth yw gwaith grŵp mewn gwirionedd

Mae gwaith grŵp yn rhan o astudio yn y brifysgol. Mae cryn dipyn o bobl yn poeni am waith grŵp, ac mae gan rai broblemau go iawn â’r syniad. Isod, rydym yn edrych ar y prif broblemau sy’n codi gyda gwaith grŵp, ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol. 

Background

Roedd gwaith grŵp yn codi’n aml yn yr arolygon Autism&Uni. Roedd rhai pobl yn meddwl bod gwaith grŵp yn ddefnyddiol iawn wrth eu helpu i ddatblygu sgiliau a fyddai’n ddefnyddiol iddynt o ran bywyd cymdeithasol a gwaith yn y dyfodol.. Roedd pobl eraill yn cael trafferth, yn enwedig os oeddent yn teimlo eu bod yn gwneud mwy o waith na phobl eraill. 

Mae hwn yn broblem gyffredin ymysg pobl niwronodweddiadol hefyd. Nid oes ffordd berffaith o roi grwpiau at ei gilydd na gorfodi iddynt weithio’n dda. Mae gwaith grŵp yn rhan bwysig o’r rhan fwyaf o gyrsiau, ac yn sgil sydd ei hangen yn y rhan fwyaf o yrfaoedd, felly mae’n werth dod i arfer â’r broses. 

Beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg am waith grŵp? 

Pa brofiad sydd gennych chi gyda gwaith 

grŵp? Ceisiwch gofio’r amseroedd da yn ogystal â’r rhai anodd. Mae’n ddealladwy eich bod yn poeni os ydych wedi cael problemau gyda gwaith grŵp yn y gorffennol, ond mae’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl yn aml yn waeth na’r realiti. Beth yw’r pwyntiau da a drwg am waith grŵp yn eich barn chi? 

Sut y gellid dewis y grwpiau? 

Mae manteision ac anfanteision i’r gwahanol ddulliau y gall tiwtoriaid eu defnyddio wrth ddewis y grwpiau. Anaml y cewch ddewis gyda phwy rydych yn gweithio yn y gweithle, ond mae’n debyg y bydd y gwaith y byddwch yn ei wneud yn gysylltiedig â’ch cryfderau a’ch sgiliau. 

Efallai y gall dyrannu pobl i grwpiau ar hap (neu yn ôl nodweddion megis eu cyfenw) ymddangos i fod y ffordd fwyaf teg, ond gall olygu bod y grwpiau’n anghyfartal iawn gan nad ydynt yn cynnwys cymysgedd da o sgiliau a diddordebau. 

Os yw’r tiwtor yn creu grwpiau sy’n cynnwys pobl â galluoedd cymysg, gan ddosbarthu’r myfyrwyr mwyaf cymwys ar draws y grwpiau, gall deimlo fel pe bai’r person sydd fwyaf cymwys yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith, a thrwy hynny, yn codi graddau’r lleill. 

Os yw myfyrwyr yn dewis eu grwpiau eu hunain, gallwch deimlo eich bod yn cael eich grymuso a gallwch weithio gyda phobl rydych chi eisoes yn eu hadnabod, ond efallai y bydd myfyrwyr mwy unig yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i grŵp. Nid yw cael ffrindiau’n gweithio gyda’i gilydd bob amser yn arwain at y grŵp cryfaf o ran cynhyrchu gwaith cwrs. 

Yn ddelfrydol, byddech yn dewis gweithio gyda phobl yn seiliedig ar eu cryfderau, a byddech yn ceisio sicrhau bod amrywiaeth o wahanol sgiliau a dewisiadau yn y grŵp. Bydd hyn yn haws os ydych yn adnabod y bobl, neu os ydynt yn cyfathrebu eu sgiliau a’u dewisiadau’n glir. Mae hefyd yn bwysig bod aelodau’r grŵp yn glir ynghylch eu disgwyliadau o’r grŵp a’r dasg. 

Cryfderau a gwendidau 

Bydd gan lawer o bobl rôl ddewisol mewn grŵp. Mae rhai pobl yn arweinwyr naturiol, mae rhai pobl yn greadigol iawn, mae rhai yn wych am gymryd nodiadau a threfnu cyfarfodydd. Mae eraill yn anhygoel am wneud i bawb deimlo’n rhan o dîm, mae rhai pobl yn gwneud sleidiau gwych, ac mae eraill yn dda am fynd ar ôl gwaith anorffenedig neu siarad yn gyhoeddus. Mae gan y rhan fwyaf o bobl gymysgedd o dalentau, yn ogystal â meysydd i’w datblygu. 

How could this affect me?

Mae rhai myfyrwyr awtistaidd yn mwynhau gwaith grŵp yn fwy nag unrhyw ran arall o’u cwrs, gan ei fod yn eu galluogi i weithio gydag eraill gyda chefnogaeth a nod cyffredin. I eraill, mae gwaith grŵp yn destun pryder. Gall profiad o waith grŵp helpu gyda pherthnasoedd cymdeithasol a gwaith yn y dyfodol, ac mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n cynnwys elfen ohono. Mae’n ddefnyddiol bod yn rhagweithiol a pharatoi ar gyfer hyn.  

Mae gwybod eich cryfderau, a gallu mynegi hyn mewn ffordd dda, heb fod yn drahaus, yn rhan bwysig o weithio gydag eraill. Mae hefyd yn bwysig gwybod beth nad ydych cystal am ei wneud, fel y gallwch weithio ar wella’r meysydd hynny ac efallai osgoi rolau lle mae’r rheini’n brif nodweddion. 

What to do next?

Treuliwch ychydig o amser yn ystyried eich cryfderau a’ch gwendidau ac archebwch apwyntiad i siarad â’ch tiwtor neu gynghorydd

Practical tips

  1. Gwnewch restr gyda dwy golofn: rhowch yr agweddau ar waith grŵp yr ydych yn poeni fwyaf amdanynt yn y golofn chwith, ac ysgrifennwch sut allwch ddatrys y problemau hyn yn y golofn dde. 
  2. Trafodwch y rhestr hon gyda pherson dibynadwy gartref neu yn y brifysgol, megis rhiant, eich ymgynghorydd anabledd, mentor neu diwtor. 
  3. Pan welwch fod gwaith grŵp yn rhan o un o’ch modiwlau, siaradwch â threfnydd y modiwl neu’r tiwtor ynglŷn â sut mae’r grwpiau’n cael eu penderfynu.  
  4. Os ydych yn arbennig o bryderus am waith grŵp, siaradwch ag ymgynghorydd anabledd. Gallent ychwanegu gwybodaeth am hyn at eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol a/neu gysylltu â’ch ysgol.  
  5. Ystyriwch ddweud wrth y grŵp eich bod yn awtistaidd a sut mae’n effeithio arnoch chi – cofiwch egluro mewn ffordd bwyllog, heb gynhyrfu na’i ddefnyddio fel esgus dros beidio â gwneud gwaith. 

Questions to think about

  • Sut ydych yn penderfynu pwy fydd yr arweinydd a phwy sy’n gwneud beth? 
  • A fyddai’n ddefnyddiol gofyn i aelodau’r grŵp siarad am eu cryfderau a’u dewisiadau? 
  • Sut fyddech yn rhannu’r gwaith yn deg? 
  • Sut fydd y grŵp yn cyfathrebu? E.e. a fyddwch yn creu sgwrs ar Teams, neu’n defnyddio cyfrifon e-bost prifysgol? 
  • Pa mor aml fydd y grŵp yn cyfarfod? A fyddwch yn cyfarfod yn y cnawd, neu o bell dros Teams? A oes disgwyl i bawb fynychu’r holl gyfarfodydd? 
  • Sut ydych yn atal pobl rhag gwneud llanast a mynd ymlaen â’r gwaith heb gynhyrfu neb? 
  • Beth i’w wneud os nad yw rhywun yn troi i fyny? 
  • Beth os yw aelodau’r grŵp yn ddiog neu ddim yn dda iawn? 
  • Beth fyddech yn ei wneud pe na bai rhywun yn siarad Saesneg yn dda iawn? 
  • Sut ydych yn ymdrin â gwahanol ddulliau o drin y dyddiad cau? 
  • Sut allwch reoli disgwyliadau’n rhagweithiol ac ymdopi’n well drwy fynd i’r afael yn gynnar â phethau yr ydych yn poeni amdanynt? 
  • Pryd ddylech siarad â’r tiwtor am broblemau? Pa gamau ddylech eu cymryd cyn mynd at y tiwtor?