Trefnu addasiadau rhesymol

Nod addasiadau rhesymol yw eich galluogi i gymryd rhan yn eich cwrs ar sail gyfartal â myfyrwyr nad ydynt yn anabl.  Dysgu sut i drefnu addasiadau rhesymol sy’n gweithio i chi: 

Background

Nod addasiadau rhesymol yn y brifysgol yw cael gwared â rhwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd i ddysgu, asesu, cyfleusterau a gwasanaethau. Er enghraifft, gallai addasiad rhesymol mewn arholiadau olygu cael amser ychwanegol. 

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y Deyrnas Unedig, rhaid cael addasiadau rhesymol os yw myfyrwyr anabl dan anfantais sylweddol o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl, ac mae gan brifysgolion ddyletswydd i ragweld a darparu addasiadau rhesymol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’ch prifysgol gynllunio ymlaen llaw ac ymdrin ag unrhyw rwystrau a allai effeithio ar eich astudiaethau a’ch lles. Mae rhai prifysgolion a chyrsiau wedi ymateb i’r her hon trwy roi systemau ar waith i bob myfyriwr, p’un a ydynt wedi cofrestru’n anabl ai peidio. Er enghraifft, recordio pob darlith, neu ddarparu dewis o fformat asesu ar gyfer aseiniad penodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dyma’r eithriad yn hytrach na’r norm, a’r dull mwy arferol yw cynnig addasiadau rhesymol unigol i ofynion penodol. 

How could this affect me?

I fod yn gymwys am addasiadau rhesymol unigol rhaid i chi fod wedi dweud wrth eich prifysgol am eich awtistiaeth. Yna gall tîm cefnogaeth anabledd y brifysgol drafod gyda chi pa addasiadau rhesymol sy’n briodol i’ch amgylchiadau. 

Mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan weithredol yn y drafodaeth hon, ac mewn penderfyniadau ynglŷn â’r addasiadau rhesymol sy’n gweithio i chi. Bydd hyn yn helpu sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth sydd wedi ei theilwra i chi. 

What to do next?

Cysylltu â Gwasanaethau Anabledd

Practical tips

Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor ar unrhyw adeg trwy e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk 

Neu drwy ffonio yn ystod oriau swyddfa (Llun-Gwener 9am-5pm): 01248 382032 

Gallwch drefnu apwyntiad gyda chynghorydd i drafod pethau fel: 

  • Cefnogaeth rydych wedi ei chael yn y gorffennol. 
  • Eich profiadau: beth sydd wedi helpu (neu ddim) yn y gorffennol. 
  • Lleoliad y brifysgol a sut mae’n wahanol i ysgol a choleg, gan gynnwys gwahaniaethau yn yr amserlen a’r asesiadau. 
  • Sut y gellid datblygu eich cefnogaeth a’ch strategaethau blaenorol i gyd-fynd â’ch bywyd yn  y brifysgol. 
  • Pa addasiadau rhesymol rydych yn meddwl a fyddai’n addas i chi. 
  • Byw oddi cartref 

Cofiwch fod y tîm anabledd bob amser yma i’ch cefnogi, ond ni fydd ganddynt o reidrwydd ateb ar unwaith i bob cwestiwn; efallai y bydd angen amser arnynt i ddod o hyd i’r ateb. 

Atebwch bob neges ynglŷn â’ch cefnogaeth ac addasiadau rhesymol yn brydlon, er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael pan fo angen. 

Additional information

Mae Uned Her Cydraddoldeb wedi cyhoeddi canllawiau ar addasiadau rhesymol i gynorthwyo prifysgolion wrth gynllunio a’u gweithredu: http://www.ecu.ac.uk/publications/managing-reasonable-adjustments-in-higher-education/