Trosolwg o’r cyllid, a’r gefnogaeth ariannol, sydd ar gael i chi gyda’ch astudiaethau. Cyngor ynghylch sut a phryd i wneud cais am y gefnogaeth hon.
Background
Cyllid Myfyrwyr Cyffredinol (e.e. ffioedd dysgu a benthyciadau)
Yn aml, mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am fenthyciad i helpu i dalu ffioedd dysgu a chostau byw. Mae’r cyllid yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau personol a’r cwrs a ddewisir. Gall gwneud cais am gyllid gymryd amser hir felly rydym yn argymell gwneud cais yn gynnar, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i chi fod â chyllid yn barod pan fyddwch yn dechrau eich cwrs.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth i israddedigion ar wefan y llywodraeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, efallai y bydd y Tîm Cyngor Ariannol yn gallu helpu.
Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
Cyllid gan y llywodraeth yw’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), sydd wedi’i fwriadu i dalu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag astudio os oes gennych anabledd (gan gynnwys cyflyrau meddygol hirdymor, cyflyrau iechyd meddwl, amhariad ar y synhwyrau, awtistiaeth neu anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia, dyspracsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)). Gallwch wneud cais i’ch corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Mae Disability Rights UK yn cynnig gwybodaeth am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, ac mae gwefan y llywodraeth yn egluro’r broses ymgeisio.
D.S.: Rydym yn cydnabod na fyddai pawb sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig yn defnyddio’r gair ‘anabl’ amdanynt eu hunain. Mae hyn yn cynnwys llawer o’r myfyrwyr y gwnaethom siarad â nhw yn ein harolygon. Fodd bynnag, y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yw’r brif ffordd o gael mynediad at gefnogaeth ar gyfer eich anghenion astudio ar ddechrau eich cwrs a thu hwnt, felly mae’n bwysig gwybod amdano.
Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi cael diagnosis swyddogol o awtistiaeth, neu sydd â llythyr yn cadarnhau eu bod ar y rhestr aros i gael asesiad ffurfiol o awtistiaeth ac sy’n astudio cwrs cymwys, hawl i wneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw fudd-daliadau eraill (hyd yn oed Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP)) ac nid yw’n seiliedig ar brawf modd ychwaith.
Gall y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl helpu â chostau cefnogaeth ychwanegol y gallech fod ei hangen wrth astudio, megis:
- Cefnogaeth un-i-un (megis mentor arbenigol)
- Offer arbenigol (e.e. meddalwedd ddefnyddiol, megis meddalwedd mapio meddwl i’ch helpu i wneud synnwyr o bwnc)
- Teithio (megis cymryd tacsis pan fo trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd)
- Ni fydd y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn talu costau y byddai’n rhaid i bob myfyriwr eu talu, megis prynu gwerslyfrau neu docynnau bws i deithio i’r brifysgol ac yn ôl.
Ni thelir y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn uniongyrchol i’r myfyriwr. Yn hytrach, mae’r cyllid yn talu darparwyr yr offer a’r gefnogaeth yn uniongyrchol.
How could this affect me?
Mae myfyrwyr awtistaidd sy’n hawlio’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn llai tebygol o adael y brifysgol ac yn fwy tebygol o gyflawni eu llawn botensial.
P’un a gawsoch gefnogaeth ai peidio, neu’n teimlo yr oedd arnoch angen cefnogaeth yn ystod yr ysgol neu’r coleg, mae bywyd prifysgol yn wahanol iawn a gall cael y gefnogaeth gywir wneud eich bywyd yn llawer haws. Bwriad y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yw sicrhau amodau cyfartal i fyfyrwyr anabl (gan gynnwys y rhai sydd â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol hirdymor, awtistiaeth, wedi colli synhwyrau ac sydd ag anawsterau dysgu penodol megis dyslecsia ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd).
Roedd y myfyrwyr a gymerodd rhan yn yr arolygon Autism&Uni a ddywedodd wrth y brifysgol am eu hawtistiaeth, ac a gafodd gefnogaeth yn gynnar yn eu cwrs, yn fwy tebygol o fwynhau eu hamser yn y brifysgol a graddio gyda graddau da na’r rhai na chafodd unrhyw gefnogaeth.
Mae amseriad y gefnogaeth yn bwysig hefyd – cafodd myfyrwyr a oedd wedi trefnu’r holl gefnogaeth yr oedd arnynt ei hangen cyn diwedd y semester cyntaf brofiad llawer gwell na’r myfyrwyr hynny na chawsant fynediad at gefnogaeth. Mae hyn yn golygu bod gwneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl cyn gynted â phosibl yn syniad da iawn – does dim ots os ydych yn newid eich meddwl am ba brifysgol rydych chi’n mynd iddi.
Gallwch hefyd ddewis cael mynediad at gefnogaeth ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau, hyd yn oed os nad ydych eisoes wedi dweud wrth y brifysgol am eich awtistiaeth, neu os ydych yn cael diagnosis o awtistiaeth ar ôl i chi ddechrau yn y brifysgol.
Gellir adolygu a newid y gefnogaeth a gewch drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl hefyd os yw eich anghenion wedi newid, neu os nad yw’r gefnogaeth yn gweithio i chi mewn gwirionedd. I ofyn am newidiadau i’r gefnogaeth a gewch drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, bydd angen i chi gysylltu â’ch gwasanaeth asesu gwreiddiol, ond gallwch drafod hynny gydag Ymgynghorydd Anabledd yn gyntaf.
What to do next?
Gwneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a threfnu eich asesiad anghenion astudio
Practical tips
Gallwch wneud cais i’ch corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru, GIG Cymru, Cyllid Myfyrwyr Lloegr) am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Mae Disability Rights UK yn cynnig gwybodaeth am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, ac mae gwefan y llywodraeth yn egluro’r broses ymgeisio.
I fyfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru), unwaith y nodir eich bod yn gymwys, bydd cyflenwr, naill ai Study Tech neu Capita, yn cysylltu â chi i drefnu asesiad anghenion astudio. Nid oes angen i chi gysylltu â nhw yn gyntaf.
Mae’r asesiad anghenion astudio yn tueddu i fod yn drafodaeth un-i-un strwythuredig ond cymharol anffurfiol, a fydd yn para tua dwy awr. Ni fyddwch yn cael eich profi nac yn gorfod cwblhau unrhyw asesiad eich hun, ond bydd yr asesydd anghenion astudio yn gofyn cwestiynau i archwilio eich anghenion o ran cefnogaeth.
Mae’r asesiad anghenion astudio yn gyfle i siarad â rhywun yn fanwl ynghylch y canlynol:
- yr agweddau cadarnhaol a negyddol ar astudio yn flaenorol
- yr agweddau cadarnhaol a negyddol ar unrhyw gefnogaeth flaenorol yn y cartref/ysgol/coleg
- unrhyw bryderon a allai fod gennych am fynd i’r brifysgol
- yr hyn yr ydych yn teimlo’n gyffrous amdano ac yn meddwl y byddwch yn gwneud yn dda ynddo
- beth yr ydych yn meddwl gallai eich helpu i lwyddo
Byddwch hefyd yn dysgu mwy am y math o gefnogaeth sydd ar gael i chi – nid yw llawer o fyfyrwyr yn gwybod llawer am hyn ac maent yn synnu o ddarganfod beth sydd ar gael a sut y gallai eu helpu.
Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cael y canlynol:
- adroddiad gyda’r argymhellion a wnaed gan eich asesydd
- llythyr hawlio yn egluro pa gefnogaeth y gallwch ei chael
Bydd Study Tech neu Capita yn cysylltu â myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) i drafod dosbarthu unrhyw offer sy’n cael ei ariannu gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, ac i drefnu unrhyw hyfforddiant technoleg gynorthwyol sydd arnoch ei angen. Bydd eich llythyr hawlio hefyd yn dweud wrthych a oes angen i chi gysylltu ag unrhyw gyflenwyr eich hun.
Sylwer: Os ydych yn cael eich ariannu gan gorff cyllido arall (e.e. GIG Cymru) bydd y broses o drefnu eich asesiad anghenion a rhoi’r gefnogaeth a argymhellir ar waith ychydig yn wahanol; cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd i gael cyngor wedi’i deilwra i’ch amgylchiadau.
Questions to think about
- Sut ydych chi’n teimlo am wneud nodiadau mewn darlithoedd?
- A fyddai gallu recordio darlithoedd o gymorth i chi?
- Sut ydych chi’n gwneud eich nodiadau ac yn eu trefnu wrth ddarllen neu adolygu?
- Ydych chi’n ei chael hi’n hawdd ysgrifennu’n academaidd? Beth am sillafu, gramadeg ac atalnodi?
- Ydych chi’n ei chael hi’n hawdd trefnu eich syniadau a’u strwythuro yn ysgrifenedig?
- Sut ydych chi’n teimlo am waith grŵp?
- Sut ydych chi’n rheoli eich amser rhydd?
- Oeddech chi’n defnyddio unrhyw offer megis amserlenni gweledol, straeon cymdeithasol, gorchuddion lliw, papur lliw neu larymau i’ch helpu yn yr ysgol neu’r coleg?
- Ydych chi bob amser yn brydlon ar gyfer apwyntiadau heb gymorth gan rywun arall?
- Oes gennych chi unrhyw gyflyrau eraill megis dyslecsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, gorsymudedd ac ati?
- Beth sy’n eich helpu pan fyddwch dan straen? Cerddoriaeth, ymarfer corff, celf, darllen, chwarae gemau, siarad ag eraill?
- Beth sy’n eich cyffroi fwyaf o ran eich cwrs?
Nôl