Sut beth yw darlith go iawn?

Gall darlithoedd yn y brifysgol fod yn wahanol iawn i wersi yn yr ysgol a’r coleg, yn enwedig os ydych yn cael eich dysgu mewn grŵp mawr.  

Background

 

Large lecture theatre with students listening to lecturer
Llun o PL5 : Y theatr ddarlithoedd fwyaf ym Mhrifysgol Bangor

Mae’n anodd gwybod sut beth yw darlith israddedig os nad ydych erioed wedi bod i ddarlith felly. Hyd yn oed os ydych wedi bod i ddarlith gyhoeddus neu sesiwn enghreifftiol wrth ymweld â phrifysgol, nid yw’n union yr un fath â darlith go iawn oherwydd mae pobl yn ymddwyn yn wahanol mewn darlith go iawn ac yn aml nid oes rhaid i chi gymryd nodiadau. 

How could this affect me?

 

Lecturer giving lecture in lecture theatre full of students
Llun o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau 

Gall cadw i fyny â chymryd nodiadau, bod mewn grŵp mawr ac ymdopi ag ysgogiadau synhwyraidd fod yn heriol ac yn gyffrous – yn union fel cynnwys darlithoedd eu hunain. Mae llawer o fyfyrwyr yn mwynhau darlithoedd gan eu bod yn gyfle i ddysgu mwy am bwnc sydd o ddiddordeb mawr i chi, gan arbenigwr yn eich maes. 

What to do next?

Meddyliwch am eich sgiliau ymdopi

Practical tips

Picture taken from back of lecture room looking towards the lecturer.
PL5

Gwneud nodiadau 

  1. Ni allwch ysgrifennu popeth sy’n cael ei ddweud mewn gwirionedd, hyd yn oed os oes gennych sgiliau llaw-fer anhygoel. Gweler y ddolen am awgrymiadau ymarferol i gymryd nodiadau:  https://subjectguides.york.ac.uk/note-taking. 
  2. Mae’n ddibwrpas copïo beth sydd ar y sleidiau – byddant ar gael i chi ar wefan Blackboard y modiwl.  
  3. Ceisiwch ysgrifennu am fanylion nad ydynt wedi eu cynnwys ar y sleidiau, yn ogystal â nodi’r prif bwyntiau. 
  4. Gall mapio meddwl, naill ai trwy feddalwedd neu â llaw, fod yn ffordd ddefnyddiol o ddangos y cysylltiadau rhwng pwyntiau a gallai fod yn addas i’ch ffordd o feddwl.  

Amseru 

  1. Nid yw darlithoedd bob amser yn dechrau ar amser, ond mae’n well cymryd y byddant yn dechrau ar amser a chyrraedd yn brydlon.  
  2. Ym Mangor, er y bydd eich amserlen yn nodi bod darlithoedd yn dechrau ar yr awr, maent i gyd yn dechrau am ddeng munud wedi’r awr, er mwyn caniatáu amser i fynd rhwng dosbarthiadau.  
  3. Weithiau mae bod yn hwyr yn anochel. Dewch i mewn mor dawel ag y gallwch – efallai y byddwch yn teimlo’n ofnadwy o annifyr ar y pryd, ond ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn poeni ac mae’n well peidio â cholli’r holl ddarlith. Gwnewch yr un peth os bydd rhaid i chi adael i gymryd seibiant, neu cyn diwedd y ddarlith.  
  4. Efallai y bydd myfyrwyr eraill yn cyrraedd yn hwyr neu’n gadael yn gynnar hefyd. Gall hyn dynnu sylw, ond mae’n iawn gwneud hyn yn y brifysgol, gan fod gan bawb fywydau y tu allan i’r cwrs. 
  5. Os byddwch yn cyrraedd yn rhy gynnar ar gyfer eich sesiwn, efallai y bydd y ddarlith flaenorol yn dal i fynd ymlaen, a/neu gallwch gael eich dal yng nghanol y dorf o bobl sy’n gadael. Os gallwch, treuliwch amser yn eich darlithfeydd rhwng darlithoedd, ac ymgyfarwyddwch â lleoliad y mynedfeydd a’r allanfeydd. 
  6. Os oes gennych amser, ewch i’r toiled cyn i’r ddarlith ddechrau! Mae’n swnio’n amlwg, ond gall darlithoedd fod yn ddwy awr o hyd ac os oes egwyl, mae’n debygol y bydd ciw i fynd i’r toiled.  
  7. Os mai chi fydd un o’r bobl gyntaf yn y ddarlithfa, gallwch ddewis ble i eistedd – efallai yr hoffech eistedd ar ben rhes fel eich bod yn gallu mynd allan yn gyflym os bydd angen, neu ger y blaen os yw’n eich helpu i ganolbwyntio. 

“Roeddwn yn mynd o ddarlithoedd, os oedd y cynnwrf yn mynd yn annioddefol.” (myfyriwr, Arolwg Autism&Uni) 

Mewngofnodi 

Yn aml, mae’n rhaid i fyfyrwyr fewngofnodi i ddarlithoedd a seminarau. Ym Mangor fel arfer gwneir hyn trwy god PIN y sesiwn, sy’n rhaid i chi ei nodi ar-lein. Os byddwch yn colli’r cod PIN ar ddechrau’r dosbarth, ceisiwch siarad â’r darlithydd ar ddiwedd y sesiwn, neu gallwch ddiweddaru eich cofnod ymgysylltu trwy eich tudalen gartref FyMangor. 

Cyfle i ofyn cwestiynau 

  1. Yn aml bydd cyfle i ofyn cwestiynau mewn darlith – weithiau bydd darlithwyr yn egluro ei bod hi’n iawn gofyn cwestiynau wrth iddynt fynd ymlaen, ac weithiau gofynnir i’r myfyrwyr ofyn eu cwestiynau ar y diwedd. Gall ysgrifennu eich cwestiynau ymlaen llaw fod o gymorth. 
  2. Dim ond os ydych yn credu y byddai pawb yn y sesiwn yn elwa o glywed yr ateb y dylech ofyn cwestiwn yn gyhoeddus mewn darlith. Gall fod yn anodd gwybod pryd y bydd hyn yn wir, yn enwedig i ddechrau. Os nad ydych yn siŵr, neu os yw eich cwestiwn yn fwy penodol i’ch dealltwriaeth eich hun, gallwch ofyn yn breifat ar ddiwedd y ddarlith, anfon e-bost at eich darlithydd neu drefnu apwyntiad gyda’ch darlithydd. 

Questions to think about

  1. Beth sy’n eich helpu canolbwyntio ar rywun sy’n siarad, fel darlithydd, pan fydd llawer o bethau’n mynd ymlaen ar yr un pryd? 
  2. A ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn i’r darlithydd ddefnyddio’r meicroffon os yw pawb arall yn dweud eu bod yn iawn hebddo neu os yw’r darlithydd yn dechrau siarad yn dawel? 
  3. Os bydd rhaid i chi adael darlith yn gynnar, naill ai oherwydd bod gennych apwyntiad neu os bydd rhaid i chi fynd i rywle tawel am ychydig, sut fyddwch yn trefnu hynny ymlaen llaw? 
  4. A yw eich darlithydd a’ch cyd-fyfyrwyr yn gwybod eich bod yn awtistig? A ydych yn meddwl y gallai fod o gymorth iddynt wybod?